Fel asiant, a oes angen i mi gael datganiad a chadw copi o Ffurflen Dreth y Cwmni fy nghleient cyn i mi ei chyflwyno ar-lein?
Os mai cwmni yw'ch cleient, gallwch gwblhau'r datganiad ar ei ran a chyflwyno'r Ffurflen Dreth os bodlonir y ddau amod canlynol:
- eich bod yn gwneud copi o'r wybodaeth cyn ei hanfon
- bod gennych gadarnhad gan swyddog cywir y cwmni (neu berson arall sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y cwmni), bod yr wybodaeth yn gywir and yn gyflawn hyd eithaf ei wybodaeth. Gall y cadarnhad fod ar bapur neu'n electronig
Dylech chi, neu'ch cleient gadw copi o Ffurflen Dreth y Cwmni a'r datganiad am yr un hyd â chofnodion eraill sy'n ymwneud â'r cyfnod cyfrifyddu. Gallwch ddewis cadw copi naill ai ar bapur neu'n electronig â llofnod electronig.