1082 - Lawrlwytho rhestr cleientiaid
I lawrlwytho cynnwys eich rhestr cleient i ffeil CSV (Comma Seperated Value) dilynwch y cysylltiad 'Lawrlwytho rhestr cleient'. Gellir mewnosod y ffeil hon yn hawdd mewn taenlen neu raglen feddalwedd arall. Mae'r data hefyd yn cynnwys eich opsiynau hysbysiad statudol. Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn eich argymell i beidio â lawrlwytho gwybodaeth am gleientiaid i gyfrifiadur nad yw'n cael ei reoli a'i gynnal gennych chi.
Os ydych yn cael anawsterau wrth lawrlwytho'r ffeil CSV a'n defnyddio Interent Explorer Ferswin 5.5 mae gosodiad eich porwr yn anghywir. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i roi'r gosodiadau porwr cywir.
- O ddewislen yr Internet Explorer dewiswch 'Tools'.
- O'r ddewislen 'Tools' dewiswch 'Internet Options'.
- O 'Internet Options' dewsiwch y tab 'Advanced'.
- Sgroliwch i lawr i'r 'Security Settings' a sicrhewch fod y gosodiad 'Do not save encrypted pages to disk' wedi ei dicio.
Os ydych y defnyddio PC ar rwydwaith efallai y bydd arnoch angen i'ch Gweinyddwr Systemau wneud hyn i chi.
Os nad yw hyn yn datrys y broblem neu os ydych yn defnyddio porwr gwahanol, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein CThEM.