Gwiriwch a oes gennych dâl treth lwfans blynyddol ar eich cynilion pensiwn
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i weld a oes yn rhaid i chi dalu treth ar eich cynilion pensiwn.
Ni allwch ddefnyddio cyfrifiannell y gwasanaeth hwn os ydych yn aelod o gynllun hybrid.
Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell hon os ydych yn aelod o’r canlynol:
- Cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU
- Cynllun pensiwn tramor cymwys
Cyn i chi ddechrau
Dylech wybod y canlynol:
- pa fathau o gynlluniau pensiwn sydd gennych neu yr ydych wedi’u cael
- faint sydd wedi’i gynilo yn eich cynlluniau pensiwn ar gyfer y dyddiadau yr ydych am eu gwirio
- a ydych wedi cyrchu’n hyblyg eich cynilion pensiwn a phryd oedd hynny
- os ydych wedi mynd heibio’r trothwy incwm ar gyfer y blynyddoedd treth perthnasol
- os ydych wedi mynd heibio’r incwm wedi’i addasu ar gyfer y blynyddoedd treth perthnasol
Dysgwch ragor am y canlynol:
A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)