Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Telerau ac amodau

Cyn defnyddio Gwirio eich Pensiwn y Wladwriaeth, dylech ddarllen y dudalen hon yn ofalus

Os ydych eisiau defnyddio ‘Gwirio eich Pensiwn y Wladwriaeth’ mae’n rhaid i chi gytuno i’n telerau ac amodau. Gallwn ddiweddaru ein telerau ac amodau unrhyw bryd. Dylech gael golwg ar y dudalen hon yn rheolaidd, er mwyn i chi fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.

Mae’r wybodaeth a roddir yn seiliedig ar fanylion o’ch cofnod Yswiriant Gwladol ar yr adeg y gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth. Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gadw’ch cofnod wedi’i ddiweddaru, ni allwn roi sicrwydd y bydd hynny’n digwydd. Ni allwn ychwaith roi sicrwydd na fydd gwallau neu hepgoriadau ynddo.

Mae’r gwasanaeth hwn am ddim i’w ddefnyddio. Ni allwn warantu y bydd bob amser ar gael, ac efallai y byddwn yn ei atal neu ei newid ar unrhyw adeg.

Ni ddylech ddibynnu ar y wybodaeth hon, gan nad yw’n gyfystyr â chyngor. Mae’n rhaid i chi gael cyngor proffesiynol wrth gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad.

Mae i fyny i chi i sicrhau bod gennych popeth sydd ei angen i gael mynediad at ein gwasanaeth. Mae hefyd yn eich cyfrifoldeb os oes unrhyw un yn defnyddio eich cysylltiad rhyngrwyd i gael mynediad at ein gwasanaeth, eu bod yn darllen ein telerau ac amodau, ac yn cytuno â hwy.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei gyhoeddi o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, a gallwch atgynhyrchu ein gwybodaeth ar yr amod eich bod yn ufuddhau i’r drwydded. Mae ein deunydd yn cael ei ddiogelu gan Hawlfraint y Goron, oni bai ein bod yn dweud fel arall. Mwy o wybodaeth am Hawlfraint y Goron.

Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd o gdefnyddio’r gwasanaeth, o fod yn methu defnyddio’r gwasanaeth neu ddibyniaeth ar unrhyw beth a arddangosir ar y safle.

Gallwch ond cysylltu i’n hafan (rhaid i chi fod yn berchen ar y wefan), cyn belled â’i fod yn deg, cyfreithiol, nid yw’n niweidio ein henw da nac yn cymryd mantais ohono. Wrth greu’r cyswllt, rhaid iddo beidio awgrymu bod unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad oni bai ein bod eisoes wedi cytuno i hynny. Rhaid i chi beidio fframio ein safle ar eich un chi. Gallwn atal yr hawl i gysylltu ar unrhyw adeg a heb rybudd.

Mae’r telerau ac amodau yn cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod yn destun awdurdodaeth unigryw’r llysoedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei weithredu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac mae ein prif swyddfeydd yn Caxton House, Tothill Street, London, SW1H 9NA.

Diolch i chi am ymweld â’r safle.

Yn ôl