Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael hyd at 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos a Gofal Plant sy’n rhydd o dreth ar gyfer pob plentyn.
Bydd angen i chi wybod y canlynol:
- eich oriau gwaith a’ch incwm
- oriau gwaith ac incwm eich partner (os oes gennych chi un)
Bydd angen gwybodaeth arnoch hefyd am eich plant, gan gynnwys:
- eu dyddiad geni
- eich costau gofal plant cymeradwy wythnosol neu fisol tebygol
- unrhyw fudd-daliadau anabledd y maen nhw’n eu cael
Credyd Cynhwysol
Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, mae angen i chi wirio yma a allwch gael help gyda chostau gofal plant (yn agor tab newydd)..
Yn eich blaen