Cyllid & Thollau EM

Sut y byddaf yn gwybod bod fy Ffurflen Dreth y Cwmni wedi dod i law?

Os byddwch yn aros ar-lein ar ôl cyflwyno'ch Ffurflen Dreth y Cwmni, dylai'ch meddalwedd ddangos tudalen sy'n nodi bod y cyflwyniad wedi bod yn llwyddiannus ac sy'n cadarnhau bod Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi cael eich Ffurflen Dreth. Os ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost, bydd CThEM hefyd yn anfon e-bost atoch i gadarnhau bod eich Ffurflen Dreth wedi dod i law.

Ar adegau prysur, efallai y bydd oedi cyn rhoi gwybod i chi fod y cyflwyniad wedi bod yn llwyddiannus, felly mae'n syniad da rhoi cyfeiriad e-bost. Gallwch ddiweddaru neu ychwanegu cyfeiriad e-bost at eich manylion drwy fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEM a dilyn y cysylltiad 'Newid manylion' ar y dudalen 'Eich cyfrif'.