Cyllid & Thollau EM

A allaf newid dyddiad cyfnod cyfrifyddu ar-lein?

Gallwch. Gallwch ddefnyddio naill ai meddalwedd Cyllid a Thollau EM (CThEM) neu feddalwedd fasnachol i gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni ar-lein, hyd yn oed os yw'ch cyfnod cyfrifyddu wedi newid.

Os ydych yn defnyddio meddalwedd CThEM, gallwch newid y cyfnod cyfrifyddu a ddangosir, neu roi gwybod i CThEM am gyfnod newydd, drwy ddilyn y neges 'Cyflwyno Ffurflen Dreth a chyfrifon' ar y sgrin. Yna, gallwch lawrlwytho a chwblhau meddalwedd cyflwyno ar-lein CThEM ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu newydd.

Os ydych yn defnyddio meddalwedd fasnachol, gallwch roi dyddiadau dechrau a gorffen y cyfnod cyfrifyddu fel rhan o'r Ffurflen Dreth ac, yn dibynnu ar eich pecyn meddalwedd, efallai y bydd y feddalwedd yn nodi hyn i chi'n awtomatig.

Pa feddalwedd bynnag a ddefnyddiwch, ni all eich cyfnod cyfrifyddu (cyfnod y Ffurflen Dreth) fod yn fwy na 12 mis o hyd, ond gall fod yn fyrrach yn dibynnu ar amgylchiadau eich cwmni. Os yw'ch cyfrifon am gyfnod o fwy na 12 mis, gweler y cwestiwn cyffredin, My accounts are for a period of more than 12 months. How can I file a Company Tax Return?.