Cyllid & Thollau EM

Fy nghwmni i yw'r cwmni enwebedig newydd o fewn Trefniant Talu Grŵp ac rwyf wedi cofrestru i fwrw golwg dros y rhwymedigaethau a'r taliadau. Am ba hyd y bydd yn rhaid i mi aros cyn y gallaf weld crynodeb y grŵp hefyd?

Gwneir y newidiadau dros nos. Byddwch yn gallu bwrw golwg dros rwymedigaethau a thaliadau'r grŵp y diwrnod canlynol.

Sylwer: Os gwneir y newidiadau rhwng dydd Llun a dydd Gwener cyn 3pm, byddwch yn gallu bwrw golwg drostynt y diwrnod canlynol. Fodd bynnag, os gwneir y newidiadau ar ôl 3pm ar ddydd Gwener neu ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, ni fyddwch yn gweld y newidiadau tan y dydd Mawrth canlynol.