Cyllid & Thollau EM

Nid wyf yn cyflwyno fy Ffurflen Dreth y Cwmni ar-lein ar hyn o bryd. Beth sydd angen i mi ei wneud i ddechrau arni?

Os ydych eisoes wedi'ch cofrestru fel sefydliad ar gyfer unrhyw wasanaethau ar-lein eraill CThEM - megis TWE i gyflogwyr neu TAW - mae'n hawdd ychwanegu Treth Gorfforaeth at eich cyfrif presennol. Er mwyn gwneud hyn, mewngofnodwch i Wasanaethau Ar-lein CThEM gyda'ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) presennol ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein CThEM a'ch cyfrinair, a dilynwch y cysylltiad 'Ymrestru ar gyfer gwasanaeth' sydd nesaf at 'Treth Gorfforaeth (CT)'. Mae cyfarwyddiadau syml ar y sgrin i'ch arwain drwy'r broses ymrestru.

Mewngofnodwch i Wasanaethau Ar-lein CThEM

Os nad ydych eisoes wedi'ch cofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein eraill CThEM, bydd angen i chi wneud hynny cyn y gallwch anfon eich Ffurflen Dreth ar-lein. Gweler y cwestiwn cyffredin: How do I register (sign up) as an Individual or Organisation?.