Cyllid & Thollau EM

Ni allaf gychwyn fy ngwasanaeth gan fod fy Nghod Cychwyn wedi ei golli/wedi dod i ben

Ni allaf gychwyn fy ngwasanaeth am fod fy Nghod Cychwyn ar goll/wedi dod i ben?
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn cynghori eich bod yn argraffu'r dudalen hon er mwyn cyfeirio ati.

Cod Cychwyn Coll

Os oes gennych eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a'ch cyfrinair, ond eich bod wedi colli eich Cod Cychwyn o fewn 28 diwrnod ar ôl ymrestru ar gyfer gwasanaeth ar-lein CThEM, byddwch yn gallu gofyn am un newydd ar-lein trwy ddilyn y camau isod:

Peidiwch â gwneud cais am God Cychwyn arall yn gynharach na 7 diwrnod ar ôl i chi gwblhau eich proses ymgofrestru.

Bydd Porth y Llywodraeth yn postio Cod Cychwyn newydd atoch o fewn saith diwrnod. Ar ôl i chi ei dderbyn, bydd rhaid i chi fynd i Wasanaethau Ar-lein CThEM a chychwyn y gwasanaeth o fewn 28 diwrnod ar ôl y dyddiad a ddangosir ar y llythyr Cod Cychwyn.

Cod Cychwyn wedi dod i ben

Os yw'r cyfnod cychwyn 28 diwrnod wedi dod i ben ac nid ydych wedi cychwyn eich gwasanaeth eto, bydd rhaid i chi ofyn am god newydd trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod:

Bydd Porth y Llywodraeth yn anfon Cod Cychwyn newydd atoch o fewn 7 diwrnod i’ch cais.

Gall gymryd hyd at 10 diwrnod i chi dderbyn y Cod Cychwyn hwn neu hyd at 21 diwrnod os ydych yn byw dramor.

Ar ôl i chi dderbyn eich cod, bydd yn rhaid i chi gychwyn y gwasanaeth o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad a ddangosir ar y llythyr neu fe ddaw’r cod i ben a bydd yn rhaid i chi wneud cais am un newydd.

Cod Cychwyn wedi dod i ben

Os yw'r cyfnod cychwyn 28 diwrnod wedi dod i ben ac nid ydych wedi cychwyn eich gwasanaeth eto, bydd yn rhaid i chi ofyn am god newydd trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod:

Bydd Porth y Llywodraeth yn anfon Cod Cychwyn newydd atoch o fewn 7 diwrnod.

Gall gymryd hyd at 10 diwrnod i chi dderbyn y Cod Cychwyn hwn neu hyd at 21 diwrnod os ydych yn byw dramor.

Ar ôl i chi ei dderbyn eich cod, bydd yn rhaid i chi gychwyn y gwasanaeth o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad a ddangosir ar y llythyr neu fe ddaw'r cod i ben a bydd yn rhaid i chi wneud cais am un newydd.