Cyllid & Thollau EM

A yw eich manylion cyswllt yn gywir ac yn gyfredol?

Mae'n holl bwysig bod eich manylion cyswllt yn cael eu cadw'n gyfredol fel y gall CThEM gadarnhau eich derbynneb gyflwyno drwy gyfrwng e-bost ac fel eich bod yn gallu cael cyfrineiriau newydd ar-lein. Er mwyn gwneud hyn bydd yn rhaid i chi fewngofnodi i Wasanaethau Ar-lein CThEM a dewis 'Eich cyfrif' o'r brif ddewislen ar y chwith.

Er mwyn diweddaru eich cyfeiriad e-bost i gael cadarnhad o'ch derbynneb gyflwyno a chyfrinair ar-lein newydd, dewiswch 'Newid manylion'.

Er mwyn diweddaru eich cyfeiriad e-bost a ddefnyddir gan CThEM i anfon negeseuon cyffredinol neu newid enw eich cyfrif neu rif ffôn, dewiswch 'Diweddaru manylion personol'.