Cyllid & Thollau EM

Rydw i wedi derbyn neges 'gwall dros dro' wrth i mi glicio 'cyflwyno' ar fy ffurflen dreth ar-lein. Sut rydw i'n gwybod p'un a ydy hi wedi cael ei derbyn?

Mewngofnodwch unwaith eto i'ch cyfrif ar-lein. Os ydy'r cyfnod wedi mynd o'ch rhestr 'cyfnodau sydd ar gael' yna bydd y ffurflen dreth wedi cael ei hanfon. Os ydy'r cyfnod yn parhau i gael ei ddangos, yna rhowch gynnig ar gyflwyno unwaith eto trwy ddewis y cyfnod a chlicio ar 'parhau'.

Fel arall, cysylltwch a'r swyddfa Cymorth i e-gwsmeriaid ar 0300 200 3705. Byddant yn gallu cadarnhau p'un a yw'r ffurflen dreth wedi cael ei derbyn, ar yr amod bod rhywun a awdurdodwyd yn gallu diwallu anghenion diogelwch.