Cyllid & Thollau EM

Sut mae'r feddalwedd gan Gyllid a Thollau EM (CThEM) y gellir ei lawrlwytho er mwyn cyflwyno Ffurflenni Treth yn gweithio?

Mae angen o leiaf fersiwn 9.2 o Adobe Reader arnoch er mwyn defnyddio meddalwedd CThEM. Os oes gennych fersiwn hŷn o Adobe Reader, mae CThEM yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r fersiwn ddiweddaraf o wefan Adobe cyn i chi lawrlwytho meddalwedd CThEM. Gellir lawrlwytho'r feddalwedd yn rhad ac am ddim.

Pan fyddwch yn dewis lawrlwytho'r feddalwedd gan CThEM, anfonir ffurflen PDF i'ch cyfrifiadur. Mae'r ffurflen hon wedi'i rhag-lenwi â'ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) a'ch rhif cofrestru Tŷ'r Cwmnïau ynghyd â'r dyddiadau ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yr ydych wedi ei ddewis. Wrth lawrlwytho'r feddalwedd mae'n rhaid i chi ddewis yr opsiwn 'Cadw' yn hytrach nag 'Agor' neu 'Rhedeg' er mwyn i'r ffurflen weithio'n iawn.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y cysylltiad 'How do I change the Trust Settings in the HMRC CT600 online filing software?'.

Mae gan y feddalwedd dair rhan allweddol: Ffurflen Dreth CT600 (Byr), templedi cyfrifon a thempledi cyfrifiannau. Mae'r templedi wedi'u cynllunio ar gyfer cwmnïau a sefydliadau llai sydd â materion syml.

Ceir rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gallu defnyddio'r Ffurflen Dreth CT600 (Byr) ac am yr wybodaeth y gallwch adrodd amdani gan ddefnyddio'r templedi cyfrifon a chyfrifiannau ar y dudalen 'Who can use HMRC's Corporation Tax online filing software'.

Mae hefyd gan y feddalwedd help a negeseuon ar y sgrin, yn ogystal ag arweiniad, fel y gallwch wirio a dod o hyd i unrhyw gamgymeriadau wrth i chi weithio drwy bob adran.

Ar ôl i chi gwblhau'ch Ffurflen Dreth y Cwmni, dilynwch y broses gyflwyno sydd o fewn y ffurflen i fewngofnodi i wasanaeth ar-lein CThEM ar gyfer Treth Gorfforaeth a chyflwyno'ch Ffurflen Dreth wedi'i chwblhau.