Cyllid & Thollau EM

Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) Partneriaeth

Cyllid a Thollau EM a fydd wedi anfon y Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) Partneriaeth. Mae'n cynnwys deg rhif, er enghraifft 1234567890, a gellir ei ganfod ar Ffurflen Dreth Partneriaeth (SA800) neu 'Hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth Partneriaeth'. Gellir ei ganfod hefyd ar ddogfennau eraill rydym wedi eu hanfon.

Yn ddibynnol ar y math o ddogfen a anfonwyd gallai'r cyfeirnod fod wedi ei argraffu wrth ochr y pennawdau 'Cyfeirnod Treth', 'UTR' neu 'Defnydd Swyddogol'.