Cyfeirnod Asiant Treth Gorfforaeth
Er mwyn ymrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein Treth Gorfforaeth i Asiantau, mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru fel asiant ar gyfer Treth Gorfforaeth.
Wrth gofrestru, byddwch yn cael cod cyfeirnod asiant Treth Gorfforaeth. Mae'n rhaid i chi nodi'r cod cyfeirnod hwn er mwyn cwblhau'r broses o ymrestru.
Os nad ydych wedi cofrestru eto, gallwch wneud hynny drwy ysgrifennu at Dîm Canolog CThEM ar gyfer Awdurdodi Asiantau ar eich papur swyddogol (os yw hynny'n briodol). Mae'n rhaid i chi roi eich enw chi, ac enw, cyfeiriad a rhif ffôn y busnes, ynghyd â manylion y trethi yr ydych yn bwriadu ymdrin â nhw, e.e. Treth Gorfforaeth. Mae angen cod asiant gwahanol arnoch ar gyfer pob treth.
Mae cyfeiriad y Tîm Canolog ar gyfer Awdurdodi Asiantau ar gael ar wefan CThEM.