Statws
Statws y Cyfnod Cyfrifyddu fel ag y'i cofnodwyd ar system gyfrifiadur Treth Gorfforaeth Cyllid a Tholau EM (CThEM).
Gall y statws fod yn un o'r canlynol:
Byw - Dyma'r statws Cyfnod Cyfrifyddu mwyaf cyffredin a golyga bod system gyfrifiadur CT CThEM yn dal cofnod sy'n dangos bod y cwmni yn, neu y disgwylir i'r cwmni gyflwyno ffurflen ar gyfer y Cyfnod Cyfrifyddu a nodwyd.
Disodlwyd - Golyga hyn yr ystyriwyd y cyfnod unwaith, ond ddim bellach, fel Cyfnod Cyfrifyddu byw y cwmni. Gallwch fwrw golwg ar Gyfnodau Cyfrifyddu a ddisodlwyd pan fod trafodyn ariannol wedi digwydd yn unig.