Cyllid & Thollau EM

1056 - Rhif Cofrestru Tŷ'r Cwmnïau (CRN)

Gellir galw hwn hefyd yn Rhif Cofrestru Cwmni (CRN) a rhoddir hwn gan Dŷ'r Cwmnïau pan caiff cwmni ei gofrestru ac mae'n rif 8 digid neu 2 lythyren sy'n cael eu dilyn gan rif 6 digid. Gallwch ei ganfod ar unrhyw ddogfennaeth a dderbynnir gan Dŷ'r Cwmnïau a byddai cwmni fel arfer yn ei arddangos ar benawdau llythyron neu slipiau cyfarch. Os na allwch ddod o hyd i'r rhif hwn cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth Gorfforaeth Cyllid a Thollau EM.

Sylwer: Wrth nodi CRN wrth gofrestru nodwch unrhyw lythrennau blaenorol neu seroau arweiniol.

Er enghraifft: Dylai CRN AC 97609 gael ei nodi fel AC097609 a dylai CRN 7589628 gael ei nodi fel 07589628