Cyllid & Thollau EM

1003 - Cod Cychwyn

Cod diogelwch 12 cymeriad yw'r Cod Cychwyn yr ydych yn ei ddefnyddio i gychwyn gwasanaeth ar-lein. Anfonir hwn atoch drwy'r post pan fyddwch yn cwblhau'rbroses o gofrestru ar-lein.

Rydym yn anfon cod gwahanol ar gyfer bob gwasanaeth yr ydych yn cofrestru ar ei gyfer. Felly, sicrhewch eich bod yn nodi'r cod cywir os ydych yn cofrestru ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau (gweler y nodyn isod os ydych yn cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth Cynlluniau Pensiwn ar-lein). Rhaid i chi ddefnyddio eich Cod Cychwyn o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad a ddangosir ar y llythyr Cod Cychwyn, fel arall bydd yn rhaid i chi gofrestru eto.

Sylwer: Ar gyfer ein Cynlluniau Pensiwn ar-lein rhaid i chi gofrestru o flaen llaw ac ar yr adeg honno rhoddir Tocyn Cychwyn i chi a ddangosir ar sgrin neu anfonir trwy'r post. dim ond Cod Cychwyn fydd ei angen arnoch i gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth Cynlluniau Pensiwn ar-lein os ydych wedi methu a nodi neu wedi colli'r Tocyn Cychwyn a rhoddir wrth gofrestru o flaen llaw.