Ni allwch wneud cais ar gyfer y mathau canlynol o gofrestru drwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn
Ceisiadau ar gyfer cofrestru, lle gwerthir nwyddau i mewn i'r DU o wladwriaeth arall yn yr UE - gelwir hyn yn 'Gwerthu o Bell'
Bydd angen i chi ddefnyddio'r ffurflen VAT1A er mwyn gwneud cais i gofrestru ar gyfer Gwerthu o Bell.
Ceisiadau ar gyfer cofrestru, lle caiff nwyddau eu caffael o wlad arall yn yr UE a'u trawsgludo i'r DU - gelwir hyn yn 'Caffaeliadau Perthnasol'
Bydd angen i chi ddefnyddio'r ffurflen VAT1B er mwyn gwneud cais i gofrestru ar gyfer Caffaeliadau Perthnasol.Lawrlwytho'r ffurflen VAT 1B
Ceisiadau ar gyfer cofrestru, oherwydd bod y cwsmer yn bwriadu gwaredu'r nwyddau y maent wedi'u hawlio ad-daliad TAW ar eu cyfer o dan drefniadau ad-dalu'r 8fed neu'r 13eg Cyfarwyddeb - gelwir hyn yn 'Cyflenwadau perthnasol'
Defnyddiwch y ffurflen VAT 1C VAT Registration Notification i gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn bwriadu gwaredu nwyddau yr ydych wedi hawlio ad-daliad TAW ar eu cyfer o dan drefniadau ad-dalu'r 8fed neu'r 13eg Cyfarwyddeb.Lawrlwytho'r ffurflen VAT 1C
Ceisiadau ar gyfer y Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol (AFRS)
Mae'r AFRS yn opsiwn arall i ffermwyr yn lle cofrestru ar gyfer TAW. Gwneir ceisiadau ar gyfer AFRS drwy ddefnyddio'r ffurflen VAT 98.
Sylwer: Gall busnesau yn y sector amaethyddol wneud cais am gofrestriad TAW safonol drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Cofrestru Treth Ar-lein.
Ceisiadau am eithriad rhag cofrestru ar gyfer TAW
Os yw eich trosiant wedi mynd dros y trothwy cofrestru, dros dro, mae'n bosib y gallwch wneud cais am eithriad rhag cofrestru.
Gallwch wneud cais am eithriad rhag cofrestru:
Gallwch ofyn i CThEM p'un a allant wneud eithriad, a chaniatáu i chi beidio â chofrestru ar gyfer TAW, drwy gyflwyno ffurflen gofrestru TAW (VAT 1), gan nodi mewn llythyr arall pam eich bod yn gwneud cais am eithriad.
Achosion 'Bod yn Agored/Peidio â bod yn Agored Bellach' (LNLL)
Gellir dweud bod busnes yn LNLL os:
Bydd angen i chi hysbysu CThEM drwy lenwi ffurflen gofrestru TAW (VAT 1), gyda llythyr ar wahân yn nodi'r cyfnod y dylech fod wedi eich cofrestru ar ei gyfer. Bydd angen i chi gyfrif am TAW ar gyfer y cyfnod hwn.
Lawrlwytho'r ffurflen VAT 1 Ceisiadau i greu neu ddiwygio Adrannau TAW sy'n bodoli eisoes
Os gwneir un corff corfforaethol sengl o nifer o adrannau eraill mae'n bosib y gallech, mewn amgylchiadau eithriadol, gofrestru bob adran ar wahân ar gyfer TAW, cyn belled a bod bob un ddim yn gorff corfforaethol yn ei enw ei hun. Byddai gan bob adran ei Rhif Cofrestru TAW ei hunan a rhaid i bob un gyfrif am TAW ar wahân.
Er mwyn cofrestru adrannau o'ch cwmni ar gyfer TAW bydd angen i chi:
Bydd cofrestru adrannol dim ond yn cael ei gymeradwyo os yw CThEM yn gwbl fodlon ei fod yn anymarferol i chi gyfuno'r ffigur o bob adran TAW.