Cyllid & Thollau EM

Cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon

Cyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon Dylech ddefnyddio eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon pan fyddwch yn gwneud taliadau TWE neu'n cysylltu â CThEM ynghylch taliad.

Mae eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon i'w weld ar y llythyr ynghylch cofrestru cyflogwr newydd a anfonodd CThEM atoch pan wnaethoch gofrestru am y tro cyntaf fel cyflogwr.

Gallwch hefyd ddod o hyd iddo ar flaen y llyfryn talu, os bydd un yn dod i law, neu ar y llythyr ynghylch talu'n electronig a anfonwyd atoch yn lle'r llyfryn.

Gallwch hefyd ddod o hyd iddo ar y rhan fwyaf o archebion am dâl a anfonir gan CThEM. Mae'n 13 o gymeriadau o hyd, a bydd yn dilyn fformat tebyg i'r enghraifft ganlynol: 123PA00012345

Mae'n bwysig eich bod yn dangos eich cyfeirnod heb unrhyw fylchau rhwng y cymeriadau. Fel arall, gallai arwain at oedi wrth i'r taliad gyrraedd eich cyfrif.