Cyllid & Thollau EM

Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) y Cwmni

Cyllid a Thollau EM (CThEM) a fydd wedi anfon Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) y Cwmni. Mae'n cynnwys deg rhif, er enghraifft 1234567890, a gellir ei ganfod ar yr 'Hysbysiad i Gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni' (ffurflen CT603). Gellir ei ganfod hefyd ar ddogfennau eraill a anfonwyd gan CThEM.

Yn ddibynnol ar y math o ddogfen a anfonwyd gallai'r cyfeirnod fod wedi ei argraffu wrth ochr y penawdau 'Cyfeirnod Treth', 'UTR' neu 'Defnydd Swyddogol'.