Cyllid & Thollau EM

UTR

Cyllid a Thollau EM a fydd wedi anfon Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) pan yn cofrestu ar gyfer Hunanasesiad neu Drethiant Cwmni. Mae'n cynnwys deg rhif, er enghraifft 1234567890.

Hunanasesiad

Gellir canfod yr UTR Hunanasesiad ar Ffurflen Dreth, Hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth neu ar Ddatganiad o Gyfrif. Mae'n bosib ei fod hefyd ar ddogfennau eraill.

Trethiant Cwmni

Gellir canfod yr UTR Trethiant Cwmni ar yr Hysbysiad i gyflwyno ffurflen dreth y cwmni ac ar y rhan fwyaf o ddogfennaeth eraill a anfonir gan Gyllid a Thollau EM. Yn ddibynnol ar y ddogfennaeth neu'r darn o ohebiaeth, mae'n bosib y bydd wedi ei argraffu wrth ochr y pennawd 'Cyfeirnod Treth', 'UTR', neu 'Defnydd Swyddogol'.

Partneriaethau

Gellir canfod yr UTR Partneriaeth ar ffurflen dreth Partneriaeth (SA800) neu Hysbysiad i gyflwyno ffurflen dreth Partneriaeth. Gellir ei ganfod hefyd ar ffurflenni neu ohebiaeth eraill rydym wedi eu hanfon.

Ymddiriedolaethau

Gellir canfod yr UTR Ymddiriedolaeth ar ffurflen dreth Ymddiriedolaeth (SA900) neu Hysbysiad i gyflwyno ffurflen dreth Ymddiriedolaeth. Mae'n bosib y bydd hefyd ar ffurflenni neu ohebiaeth eraill rydym wedi eu hanfon.