Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR) Partner
Cyllid a Thollau EM a fydd wedi anfon y Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) Partner. Mae'n cynnwys deg rhif, er enghraifft 1234567890, a gellir ei ganfod ar Ffurflen Dreth, Hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth neu ar Ddatganiad o Gyfrif. Gellir ei ganfod hefyd ar ddogfennau eraill a anfonwyd gennym.
Yn ddibynnol ar y math o ddogfen a anfonwyd gallai'r cyfeirnod fod wedi ei argraffu wrth ochr y pennawdau 'Cyfeirnod Treth', 'UTR' neu 'Defnydd Swyddogol'.