Dyddiad cau'r cyfnod cyfrifyddu
Mae cyfnod cyfrifyddu'n dod i ben pan fydd y cynharaf o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd:
- 12 mis wedi mynd heibio ers dechrau'r cyfnod coy.
- Mae cwmni wedi llunio ei gyfrifon (mae dyddiad cau'r cyfrifon hefyd yn ddyddiad cau'r cyfnod cyfrifyddu). Gallai hyn fod am gyfnod sy'n llai na 12 mis.
- Mae cwmni'n dechrau gweithgareddau masnachu (ar ôl bod yn gwmni cwsg yn flaenorol neu dim ond wedi cael incwm o ffynonellau anfasnachol).
- Mae holl weithgareddau masnachu'r cwmni'n dod i ben.
- Mae cwmni'n dechrau, neu'n peidio â, bod yn atebol i Dreth Gorfforaeth mewn perthynas â'i holl fasnach.
- Mae cwmni'n dechrau, neu'n peidio â, phreswylio yn y DU.
- Mae cwmni'n peidio â bod yn atebol i Dreth Gorfforaeth yn gyfan gwbl (does dim ffynhonnell incwm ganddo).
- Mae cwmni'n cael ei ddwyn i weinyddiaeth, neu'n peidio â bod mewn gweinyddiaeth.
- Mae cwmni'n dechrau cael ei ddirwyn i ben neu ei ddatod. Bydd cyfnod cyfrifyddu newydd yn dechrau ar ddyddiad y gorchymyn i ddirwyn y cwmni i ben neu ei ddatod. O hynny ymlaen, bydd cyfnod cyfrifyddu newydd yn dechrau ar yr un dyddiad hwnnw bod deuddeg mis (waeth beth fydd y cyfnod a gwmpesir gan unrhyw gyfrifon) tan fod naill ai'r datodiad wedi ei gwblhau neu tan i'r cwmni gael ei ddwyn i weinyddiaeth.