Swm sy'n ddyledus yn y cyfnod
Cyfrifir y swm sy'n ddyledus fel a ganlyn:
- y ffigurau diweddaraf ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn o ran treth, Yswiriant Gwladol a Benthyciadau Myfyrwyr a hysbyswyd ar gyfer pob cyflogai, ar eich cyflwyniadau FPS
- llai'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn o ran credydau a hawliwyd, ar eich cyflwyniadau EPS
- llai unrhyw Lwfans Cyflogaeth sy'n ddyledus
- llai cyfanswm yr holl symiau blaenorol sy'n ddyledus yn y flwyddyn dreth bresennol
- plws unrhyw dreth CIS ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
- plws unrhyw gosbau ac unrhyw log sy'n ddyledus
Caiff dadansoddiad o dâl y mis hwn, ynghyd â'r taliadau a ddyrannwyd yn erbyn y swm hwnnw, ei ddangos pan ddewiswch y mis treth yr ydych am ei weld drwy ddilyn y cysylltiad perthnasol yn y golofn dyddiad.
Pan nad oes unrhyw wybodaeth wedi’i chyflwyno ynglŷn â datganiad ar gyfer y cyfnod perthnasol, dangosir tâl penodol (amcangyfrif yn seiliedig ar wybodaeth datganiad blaenorol) yn fuan ar ôl y 23ain o'r mis.
Gwybodaeth bellach ynghylch sut i gyfrifo faint o TWE i’w thalu