Cyllid & Thollau EM

P9 - anfon yn ddyddiol a P9B - anfon yn swmp

Mae'r P9 - hysbysiadau dyddiol yn cynghori ynghylch codau treth ar gyfer y flwyddyn dreth newydd sy'n dechrau ar 6 Ebrill a gallant fod yn ddiwygiadau i'r P9 - anfon yn swmp. Maent yn cael eu cynhyrchu'n ddyddiol o fis Mawrth i 5 Ebrill, ar ôl anfon yr 2il swmp o'r P9 a dylid eu defnyddio ar y diwrnod cyflog 1af yn y flwyddyn dreth newydd.

Cynhyrchir P9 - hysbysiadau i'w hanfon yn swmp mewn 2 swmp blynyddol i'w hanfon ym mis Chwefror a mis Mawrth. Maent yn cynghori ynghylch y codau treth ar gyfer y flwyddyn dreth newydd sy'n dechrau ar 6 Ebrill a dylid eu defnyddio ar y diwrnod cyflog cyntaf yn y flwyddyn dreth newydd.