Cyllid & Thollau EM

Hysbysiadau dechrau ac atal Benthyciad Myfyriwr

Mae hysbysiadau dechrau ac atal Benthyciad Myfyriwr yn cynghori cyflogwyr ynghylch pryd i ddechrau neu orffen gwneud didyniadau ar gyfer ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr ar gyfer cyflogai penodol. Mae'r hysbysiad SL1 yn hysbysu cyflogwyr i ddechrau gwneud didyniadau Benthyciadau Myfyrwyr ac mae'r hysbysiad SL2 yn hysbysu cyflogwyr i atal didyniadau Benthyciadau Myfyrwyr.