Swm a dalwyd yn y cyfnod
Y swm a dalwyd yn y cyfnod yw cyfanswm y taliadau a ddyrannwyd yn erbyn y swm sy'n ddyledus yn y cyfnod. Gall hyn gynnwys:
- taliadau TWE/CIS a dderbyniwyd
- taliadau cosb a dderbyniwyd
- taliadau sydd wedi'u hail ddyrannu i'r swm sy'n ddyledus naill ai o fis treth neu flwyddyn dreth arall, neu o gyfrif arall, er enghraifft Hunanasesiad neu TAW
- llog ar ad-daliad
- unrhyw symiau nad ydynt wedi'u dyrannu eto, e.e. Taliadau ar Gyfrif