Cyllid & Thollau EM

Cynnwys sydd ei angen

Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig

Mae Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) yn debyg i bartneriaeth arferol, ond mae'n cynnig atebolrwydd personol is ar gyfer dyledion busnes. Yn wahanol i unig fasnachwyr a phartneriaid partneriaethau cyffredin, y PAC ei hunan - nid yr aelodau unigol - sy'n gyfrifol am unrhyw ddyledion sy'n codi, oni bai bod aelodau unigol wedi gwarantu benthyciad i'r busnes yn bersonol. Mae'n rhaid i Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig gofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r ffurflen LL IN01. Bydd Tŷ'r Cwmnïau yn hysbysu Cyllid a Thollau EM (CThEM) a bydd cofnodion treth y bartneriaeth yn cael eu sefydlu'n awtomatig.

Fodd bynnag, bydd yn rhaid i bob partner yn y PAC hefyd gofrestru ar wahân gyda CThEM er mwyn cael eu cofnodion treth eu hunain wedi'u sefydlu. Rhaid iddynt ddefnyddio ffurflen SA402 i wneud hyn.

Ymddiriedolaethau

Mae ymddiriedolaeth yn drefniant cyfreithiol lle y gwneir un neu fwy o 'ymddiriedolwyr' yn gyfrifol yn gyfreithiol am yr asedion. Mae'r asedion - megis tir, arian, adeiladau, cyfranddaliadau neu hyd yn oed hynafolion - yn cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth er budd un neu fwy o'r 'buddiolwyr'.

Clybiau a chymdeithasau

Mae clybiau a chymdeithasau yn cyfeirio at glybiau aelodau anghorfforedig, megis clwb chwaraeon neu gymdeithasol. Weithiau mae CThEM yn defnyddio 'clybiau' i gyfeirio at gymdeithasau, cymdeithasau gwirfoddol a chyrff anghorfforedig eraill.

Ar hyn o bryd nid yw'r gwasanaeth hwn yn cynorthwyo clybiau a chymdeithasau sy'n cofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth neu TWE.

Dylai elusennau a sefydliadau eraill a all fod yn agored i Dreth Gorfforaeth - er enghraifft, rhai clybiau aelodau, cymdeithasau cyfeillgar, cymdeithasau tai - ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os ydynt wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau, neu gwblhau ffurflen CT41G (clybiau) er mwyn hysbysu CThEM eu bod yn agored i Dreth Gorfforaeth.

Isgontractwyr

Os ydych yn gweithio fel is-gontractwr o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) rhaid i chi gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM (CThEM) cyn i chi ddechrau gweithio.

Os nad ydych yn cofrestru gyda CThEM, bydd yn rhaid i gontractwyr wneud didyniad o'ch taliadau ar y gyfradd uwch - 30%.