Cyllid & Thollau EM

Cofrestru ac Ymrestru

Er mwyn defnyddio gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EM (CThEM) mae'n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Cyfrif Ar-lein Porth y Llywodraeth, ac yna ymrestru ar gyfer y gwasanaeth(au) penodol rydych am ei ddefnyddio/eu defnyddio.

Os ydych yn fusnes ac yn defnyddio'r gwasanaeth cofrestru treth ar-lein i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad/CYG Dosbarth 2, Treth Gorfforaeth, TWE i gyflogwyr neu TAW, caiff cyfrif Porth y Llywodraeth ei greu i chi fel rhan o'r broses honno. Cewch hefyd, yn y rhan fwyaf o achosion, eich ymrestru'n awtomatig ar gyfer y gwasanaethau ar-lein cysylltiedig.

Os nad ydych yn fusnes neu os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer trethi busnes CThEM, gallwch gofrestru i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEM ar wahân.

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein eraill CThEM:

Ewch i www.online.hmrc.gov.uk a mewngofnodwch â'ch Dynodydd Defnyddiwr a'ch cyfrinair ac fe eir â chi i'r dudalen 'main menu'. O fewn yr adran 'Eich gwasanaethau CThEM' ar y dudalen hon, mae yna adran 'Gwasanaethau y gallwch eu hychwanegu'.

Os ydych yn newydd i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM

Ewch i www.online.hmrc.gov.uk a chliciwch ar 'Cofrestru' o dan yr adran 'Defnyddwyr newydd'. Aiff hyn â chi i'r dudalen nesaf, o'r enw 'Cofrestru– Beth hoffech chi wneud?'. Cliciwch ar y cysylltiad 'Ymuno â gwasanaethau ar-lein CThEM' yn yr adran 'eisoes wedi'ch cofrestru gyda CThEM ar gyfer treth' er mwyn dechrau'r broses cofrestru ac ymrestru.

Yn ystod y broses gofrestru gofynnir i chi roi gwybodaeth amdanoch chi neu eich sefydliad at ddibenion adnabod. Mae'r manylion hyn yn cynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost ac, os ydych yn cofrestru fel asiant, enw eich sefydliad. Gofynnir i chi hefyd greu cyfrinair.

Unwaith rydych wedi nodi'r manylion hyn bydd eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) yn cael ei ddangos ar y sgrin. Rhaid i chi wneud nodyn o hwn a'i gadw'n ddiogel, gan y byddwch ei angen bob tro y byddwch yn mewngofnodi i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM. Ni chaiff ei ddangos eto, ac ni fyddwch ychwaith yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig ohono.

Sylwer: Rydych ond yn cofrestru eich bwriad i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM ac nid gwneud ymrwymiad ffurfiol i'w defnyddio.

Unwaith eich bod wedi cofrestru ac wedi derbyn eich Dynodydd Defnyddiwr gallwch wedyn ymrestru i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein penodol CThEM (neu wasanaethau adrannau eraill o'r Llywodraeth).

Wrth ymrestru i ddefnyddio gwasanaeth ar-lein, gofynnir i chi am gyfeirnod penodol CThEM er mwyn eich adnabod chi neu'ch sefydliad, er enghraifft eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu Rif Cofrestru TAW). Dylech gael yr wybodaeth hon yn barod. Am fanylion yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gweler yr adran 'Sut i gofrestru' berthnasol ar gyfer y gwasanaeth rydych am ei ddefnyddio.