Cyllid & Thollau EM

Cynnwys sydd ei angen

Hunangyflogedig/unig fasnachwr

Bydd unig fasnachwr hunangyflogedig yn gweithio i'w hunan, er efallai y bydd ganddo ef/ganddi hi bobl yn gweithio iddo/iddi hefyd. Bydd ef/hi yn talu Treth Incwm ar ei elw/helw trethadwy drwy gyfrwng Hunanasesiad. Efallai bydd angen iddo/iddi hefyd dalu Yswiriant Gwladol. Os yw ef/hi yn cyflogi pobl, bydd yn rhaid iddo/iddi fel arfer weithredu TWE (Talu Wrth Ennill) ar enillion ei gyflogeion/chyflogeion ac anfon Datganiad Blynyddol y Cyflogwr at Gyllid a Thollau EM (CThEM) ar-lein.

Partneriaeth (Hunangyflogedig)

Partneriaeth yw lle mae dau neu fwy o bobl yn sefydlu partneriaeth gyda'i gilydd. Mae pob partner yn gyfrifol yn bersonol am holl ddyledion y busnes, hyd yn oed os achoswyd y ddyled gan bartner arall. Mae pob partner yn gyfrifol am dalu treth ar eu cyfran eu hunain o'r elw trethadwy ac mae angen iddynt ddangos eu cyfran ar eu ffurflen dreth Hunanasesiad eu hunain. Efallai bydd angen i bob partner hefyd dalu Yswiriant Gwladol. Os yw'r bartneriaeth yn cyflogi pobl, bydd yn rhaid iddi fel arfer weithredu TWE ar ei henillion ac anfon Datganiad Blynyddol y Cyflogwr at CThEM ar-lein.

Cwmni cyfyngedig

Mae cwmni cyfyngedig yn un o'r ffyrdd y gall cwmni gael ei strwythuro. Yn groes i fathau eraill o fusnesau (er enghraifft unig fasnachwyr neu bartneriaethau) neu gymdeithasau anghorfforedig (er enghraifft clybiau aelodau), mae cwmni cyfyngedig yn endid cyfreithiol ar wahân i'w gyfranddalwyr (neu aelodau) a'i gyfarwyddwyr.

Daw cwmni cyfyngedig i fodolaeth pan gaiff ei gofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau. Mae'n rhaid i gwmnïau cyfyngedig hefyd gyflwyno dogfennau penodol gyda Thŷ'r Cwmnïau - pan gânt eu sefydlu gyntaf ac ar sail barhaus (fel arfer yn flynyddol).

Mae'r gofynion cyflwyno hyn i Dŷ'r Cwmnïau yn wahanol i'r hyn y mae angen i'r cwmni ei wneud at ddibenion Treth Gorfforaeth CThEM.

Clybiau a chymdeithasau

Mae clybiau a chymdeithasau yn cyfeirio at glybiau aelodau anghorfforedig, megis clwb chwaraeon neu glwb cymdeithasol. Weithiau mae CThEM yn defnyddio 'clybiau' i gyfeirio at gymdeithasau, cymdeithasau gwirfoddol a chyrff anghorfforedig eraill.

Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi clybiau a chymdeithasau sy'n cofrestru ar gyfer TAW.

Dylai elusennau a sefydliadau eraill a all fod yn agored i Dreth Gorfforaeth - er enghraifft, rhai clybiau aelodau, cymdeithasau cyfeillgar, cymdeithasau tai - ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os ydynt wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau, neu gwblhau ffurflen CT41G (clybiau) er mwyn hysbysu CThEM eu bod yn agored i Dreth Gorfforaeth.