Cyllid & Thollau EM

1235 - Dynodydd Defnyddiwr (ID)

Nodwch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a roddwyd i chi pan wnaethoch ymuno'n wreiddiol i gael cyfrif Porth y Llywodraeth.

Sylwer: Os ydych yn cofrestru ar gyfer trethi Cyllid a Thollau EM (CThEM) ac wedi creu cyfrif newydd Porth y Llywodraeth fel rhan o'r broses cofrestru, nodwch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) yna yn lle.

Mae Dynodydd Defnyddiwr yn cynnwys 12 rhif a gynhyrchir ar hap, er enghraifft, 123456789123.

Peidiwch â gadael bylchau rhwng y llythrennau neu'r rhifau wrth i chi nodi eich Dynodydd Defnyddiwr (ID).

Os ydych wedi colli eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) gallwch ofyn am un newydd drwy ddilyn y cysylltiad 'Lost User ID' ar y dudalen 'Welcome to Online Services' ar wefan CThEM.

Os ydych yn mewngofnodi eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) neu Gyfrinair yn anghywir 3 gwaith neu fwy, byddwch yn cael eich cloi allan o'ch cyfrif Gwasanaethau Ar-lein CThEM am 2 awr. Ar ôl hynny byddwch yn gallu ceisio mewngofnodi eto gan ddefnyddio'r Dynodydd Defnyddiwr (ID) a Chyfrinair cywir.