Cyllid & Thollau EM

Taliadau/credydau a ddefnyddir ar gyfer Swm sy'n ddyledus

Pan eich bod wedi gordalu treth ac mae eich rhwymedigaeth nesaf i'w thalu cyn hir (fel arfer o fewn y 45 diwrnod nesaf, ond ar gyfer rhwymedigaethau 31 Ionawr a 31 Gorffennaf estynnir hyn i tua 65 diwrnod) dangoswn unrhyw dreth a ordalwyd fel bod wedi ei gosod yn erbyn y rhwymedigaeth hon yn y dyfodol yn gyntaf a dangoswn unrhyw weddill yn y llinell 'Taliadau/credydau heb eu defnyddio eto' uchod.

Serch hynny mae gennych hawl i gael yr holl dreth a ordalwyd yn ôl (y swm a ddangosir yn y llinell Cyfanswm) hyd at y dyddiad mae eich taliad nesaf yn ddyledus. (Fe ad-dalwn y swm llawn ar y ddealltwriaeth eich bod yn talu’r swm a ddaw'n ddyledus cyn hir erbyn y dyddiad dyledus).