Cyllid & Thollau EM

1275 - Byw a/neu wedi eich cofrestru dramor

Os ydych yn preswylio dramor, neu os yw eich cwmni wedi ei gofrestru dramor, ticiwch y blwch perthnasol a gadewch y blwch ar gyfer y cod post yn wag.

Sylwer: Os ydych yn byw yn Guernsey, Ynys Manaw neu Jersey bydd gennych god post ond rhaid i chi adael y blwch ar gyfer y cod post yn wag.

Os ydych yn asiant sy'n gwneud cais am awdurdod i weithredu ar ran cleient, rhaid i chi naill ai nodi cod post neu dicio'r blwch os yw eich cleient yn byw dramor.