Cyllid & Thollau EM

1262 - Rhif Cofrestru Tŷ'r Cwmnïau (CRN)

Caiff Rhif Cofrestru'r Cwmni (CRN) ei ddyrannu gan Dŷ'r Cwmnïau ar gofrestru cwmni ac mae'n uchafswm o 8 cymeriad. Caiff rhai Rhifau Cofrestru'r Cwmni (CRN) eu rhagflaenu gan lythrennau'r wyddor. Byddwch yn ei ganfod ar unrhyw ddogfennaeth a dderbynnir oddi wrth Dŷ'r Cwmnïau a byddai cwmni fel arfer yn ei arddangos ar benawdau llythyron neu slipiau cyfarch. Os na allwch ddod o hyd i'r rhif hwn cysylltwch â'r swyddfa dreth berthnasol.

Sylwer: Wrth nodi'r CRN wrth gofrestru dylech hepgor unrhyw lythrennau blaenorol neu seroau arweiniol, er enghraifft, dylid nodi CRN AB 00097609 fel 97609 a dylid nodi CRN AB 00N42386 fel N42386.