Cyllid & Thollau EM

Wedi bwrw golwg ar yr wybodaeth

Gwybodaeth yn ein meddiant amdanoch chi

Bob blwyddyn dreth, mae CThEM yn cael gwybod am yr incwm a dderbyniwch. Rydym wedi creu tudalen wybodaeth i'ch cynorthwyo, fel cwsmer hunanasesiad, wrth i chi lenwi'ch ffurflen dreth.

Mae'r wybodaeth i'w darllen yn unig. Ar ôl i chi ddarllen yr wybodaeth, cliciwch ar y blwch ticio. Yna, caiff adrannau perthnasol eich ffurflen dreth eu llenwi â'r data hwn.

Os ydych yn anghytuno gyda'r wybodaeth, bydd yn rhaid i chi gyrchu pob adran ac addasu'r ffigurau. Os ydych am roi gwybod i ni pam eich bod yn gwneud newidiadau, defnyddiwch y dudalen 'Gwybodaeth ychwanegol'.