Cyllid & Thollau EM

Dyrannu yn erbyn (Taliadau/credydau)

Mae hyn yn rhestru pob rhwymedigaeth y dyrannwyd y taliad neu'r credyd penodol yn ei erbyn. I gael dadansoddiad manwl o bob dyraniad dilynwch y cysylltiad priodol o fewn y golofn hon. Dewiswch o'r rhestr isod i gael eglurhad cyffredinol o ddisgrifiad unigol.
Taliad Cyntaf ar Gyfrif
Ail Daliad ar Gyfrif
Tâl Mantoli
Newid Ymholiad
Diwygiad Ffurflen Dreth
Asesiad Cyllid a Thollau
Swm sydd bellach heb ei gynnwys yn y cod treth
Penderfyniad Cyllid a Thollau
Gordal cyntaf am dalu'n hwyr
Ail ordal am dalu'n hwyr
Cosb gyntaf am ffurflen dreth hwyr
Ail gosb am ffurflen dreth hwyr
Cosb gyntaf am ffurflen dreth partneriaeth hwyr
Ail gosb am ffurflen dreth partneriaeth hwyr
Penalty

For return years 2010-11 onwards

Cosb am gyflwyno'n hwyr
Cosb i Bartneriaeth am gyflwyno'n hwyr
Cosb Ddyddiol
Cosb Ddyddiol i Bartneriaeth
Cosb am gyflwyno 6 mis yn hwyr
Cosb i Bartneriaeth am gyflwyno 6 mis yn hwyr
Cosb am gyflwyno 12 mis yn hwyr
Cosb i Bartneriaeth am gyflwyno 12 mis yn hwyr
Cosb am Dalu 30 diwrnod yn hwyr
Cosb am Dalu 6 mis yn hwyr
Cosb am Dalu 12 mis yn hwyr
 

Cosb am gyflwyno'n hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth erbyn y dyddiad priodol codir cosb am gyflwyno'n hwyr o £100. Mae'r gosb yn swm sefydlog ac ni chaiff ei ostwng oherwydd bod y rhwymedigaeth treth yn llai na'r gosb, neu nad oes rhwymedigaeth neu bod ad-daliad yn ddyledus.
 

Cosb i Bartneriaeth am gyflwyno'n hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth Partneriaeth erbyn y dyddiad priodol codir cosb am gyflwyno'n hwyr o £100 ar bob partner.
 

Cosb Ddyddiol
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth o fewn tri mis ar ôl y dyddiad priodol i gyflwyno'r ffurflen dreth, bydd cosbau dyddiol yn dechrau codi. Codir cosbau dyddiol o £10 y diwrnod hyd at uchafswm o 90 diwrnod. Os cyflwynir y ffurflen dreth yn ystod y 90 diwrnod, codir y gosb ddyddiol o £10 y diwrnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad y cyflwynwyd y ffurflen.
 

Cosb Ddyddiol Partneriaeth
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth Partneriaeth o fewn tri mis ar ôl y dyddiad priodol i gyflwyno'r ffurflen dreth, bydd cosbau dyddiol yn dechrau codi. Codir cosbau dyddiol o £10 y diwrnod hyd at uchafswm o 90 diwrnod ar bob partner yn y bartneriaeth. Os cyflwynir y ffurflen dreth yn ystod y 90 diwrnod, codir y gosb ddyddiol o £10 y diwrnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad y cyflwynwyd y ffurflen.

Cosb am gyflwyno 6 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth o fewn 6 mis ar ôl y dyddiad priodol i gyflwyno'r ffurflen dreth, codir cosb (ar sail y dreth) am gyflwyno'n hwyr.

Y gosb yw'r uchaf o £300 neu 5% o swm y dreth sy'n ddyledus ar y ffurflen dreth neu o benderfyniad.

Cosb i Bartneriaeth am gyflwyno 6 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth o fewn 6 mis ar ôl y dyddiad priodol i gyflwyno'r ffurflen dreth, codir cosb (ar sail y dreth) am gyflwyno'n hwyr ar bob partner yn y bartneriaeth.

Y gosb yw'r uchaf o £300 neu 5% o swm y dreth sy'n ddyledus ar y ffurflen dreth neu o benderfyniad.

Cosb am gyflwyno 12 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth o fewn 12 mis ar ôl y dyddiad priodol i gyflwyno'r ffurflen dreth, codir cosb (ar sail y dreth) am gyflwyno'n hwyr.

Y gosb yw'r uchaf o £300 neu 5% o swm y dreth sy'n ddyledus ar y ffurflen dreth neu o benderfyniad.

Cosb i Bartneriaeth am gyflwyno 12 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth Partneriaeth o fewn 12 mis ar ôl y dyddiad priodol i gyflwyno'r ffurflen dreth, codir cosb (ar sail y dreth) am gyflwyno'n hwyr ar bob partner yn y bartneriaeth.

Y gosb yw'r uchaf o £300 neu 5% o swm y dreth sy'n ddyledus ar y ffurflen dreth neu o benderfyniad.

Cosb am gyflwyno 30 diwrnod yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen gosodir cosb gyntaf am dalu'n hwyr pan fydd treth heb ei thalu yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y daeth yn ddyledus.

Y swm cyntaf hwn yw 5% o'r swm oedd heb ei dalu 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y daeth yn ddyledus.

Cosb am gyflwyno 6 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen gosodir ail gosb am dalu'n hwyr pan fydd treth heb ei thalu yn hwyrach na 30 diwrnod a 5 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn ddyledus.

Yr ail swm hwn yw 5% o'r swm oedd heb ei dalu 30 diwrnod a 5 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn ddyledus.

Cosb am dalu 12 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 ac ymlaen gosodir trydedd gosb am dalu'n hwyr pan fydd treth heb ei thalu yn hwyrach na 30 diwrnod ac 11 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn ddyledus.

Y trydydd swm hwn yw 5% o'r swm oedd heb ei dalu 30 diwrnod ac 11 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn ddyledus.