Swm i'w adennill oddi arnoch chi
Mae hwn yn dangos ein bod yn adennill swm oddi arnoch ar hyn o bryd.
Bydd yn dangos pam ein bod yn adennill swm oddi arnoch, er enghraifft, ad-dalwyd taliad a wnaethoch drwy siec ac yna gwrthodwyd eich siec.
Gall hefyd ddangos unrhyw addasiadau a wnaethpwyd, er enghraifft, symiau rydym yn eu casglu drwy eich cod TWE, neu unrhyw daliadau/credydau rydych wedi'u gwneud.