Cyllid & Thollau EM

Cyflwyno ffurflen dreth ddiwygiedig

Mae'r cyfnod ar gyfer gwneud diwygiadau i Ffurflen Dreth yn dod i ben am hanner nos 12 mis ar ôl y dyddiad cyflwyno statudol ar gyfer y ffurflen dreth. 31 Ionawr fyddai hwn ar gyfer ffurflenni treth ar-lein. Os gwnaethoch ddefnyddio Gwasanaeth Hunanasesiad Cyllid a Thollau EM (CThEM) i gyflwyno'r Ffurflen Dreth wreiddiol ar gyfer y flwyddyn (neu ddiwygiad blaenorol), gallwch gyflwyno diwygiad gan ddefnyddio Gwasanaeth Hunanasesiad CThEM o'r diwrnod canlynol. Fel arall, mewn modd tebyg, gallwch gyflwyno diwygiad gan ddefnyddio meddalwedd fasnachol.

Gellir cyflwyno diwygiadau ar-lein fesul cyfnodau dyddiol ac mae'n bosib, os yw'n angenrheidiol, i wneud cyfanswm o 9 diwygiad ar-lein o fewn y cyfnod ar gyfer gwneud diwygiadau. Pan bod atodiad(au) yn ffurfio rhan o gyflwyniad gwreiddiol Ffurflen Dreth (neu ddiwygiad blaenorol) nid yw'n angenrheidiol iddo/iddynt gael eu hail-hatodi i ddiwygiad dilynol. Fodd bynnag, gallwch ddewis ail-atodi'r un atodiad(au), neu un/rhai gwahanol, gyda'ch diwygiad. Ni ellir defnyddio'r cyfleuster ar gyfer diwygio dim ond er mwyn anfon atodiad heb fod rhywbeth wedi'i altro yng nghynnwys y ffurflen dreth ei hun.