Cyllid & Thollau EM

Taliad Cyntaf ar Gyfrif

Pan ei bod yn ofynnol arnoch i wneud Taliadau ar Gyfrif, dyma'r cyfanswm ar gyfer y taliad cyntaf. O dan Hunanasesiad, mae rhai pobl yn gwneud dau 'Daliad ar 'Gyfrif' o dreth o flaen y dyddiad talu terfynol. Pan fod yn rhaid i chi wneud 'Taliadau ar Gyfrif', bydd pob taliad fel arfer yn hafal ag un hanner o rwymedigaeth treth y flwyddyn flaenorol (ar ôl tynnu i ffwrdd treth a ddidynnwyd wrth y ffynhonnell a chredydau treth ar ddifidendau). Mae'r taliadau'n ddyledus ar 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth, a 31 Gorffennaf yn dilyn y flwyddyn dreth.