Cosb gyntaf ar gyfer ffurflen dreth hwyr
Mae'r gosb gyntaf am gyflwyno Ffurflen Dreth yn hwyr ond yn gymwys ar gyfer y blynyddoedd treth 2009/10 a chynharach.
Codwyd cosb benodol gyntaf o £100 am na chafodd eich ffurflen dreth ei derbyn erbyn y dyddiad .
Sylwer: Pan fod ffurflen dreth unigol wedi ei derbyn yn hwyr ac mae'r rhwymedigaeth gyfan yn llai na chyfanswm y gosb a godwyd, cyfyngir y gosb i gyfanswm y rhwymedigaeth. Er enghraifft: Roedd dyddiad cau ffurflen dreth ar 31 Ionawr2006 ond fe'i derbyniwyd ar 12 Hydref 2006.
O ganlyniad, codwyd y cosbau canlynol: Codwyd Cosb Benodol 1 ar 28 Chwefror 2006 am £100.00 Codwyd Cosb Benodol 2 ar 31 Gorffennaf 2006 am £100.00 Cyfanswm y cosbau yw £200.00 Rhwymedigaeth gyfan o'r ffurflen dreth yw £71.50 O ganlyniad, gostyngir y cosbau i £71.50.