Cyllid & Thollau EM

Llog

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn codi llog am dalu'n hwyr ar unrhyw dreth, gan gynnwys gordal sydd heb ei dalu a chosb, sydd heb ei thalu erbyn y dyddiad cau. Disgrifir llog sy'n codi ar rwymedigaeth sydd heb ei dalu'n llawn fel 'llog sy'n cronni am dalu'n hwyr ar gyfer' wedi ei ddilyn gan ddisgrifiad byr o'r rhwymedigaeth y mae'n codi arni. Cyfrifir llog ar sail ddyddiol a bydd y swm a ddangosir yn cynyddu bob diwrnod tan i'r dreth gael ei thalu'n llawn. Unwaith bod y drethwedi cael ei thalu'n llawn, caiff y llog terfynol ei chyfrif a'i disgrifio fel 'llog am dalu'n hwyr ar gyfer,' wedi'i ddilyn gan ddisgrifiad byr o'r dreth y cafodd ei godi arni. Sylwer: Nid yw CThEM yn codi llog am dalu llog am dalu'n hwyr, yn hwyr.