Cyllid & Thollau EM

Cosbau

Mae cosbau a godir ar gyfer ffurflenni treth hwyr a thalu'n hwyr.

Ar gyfer blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen

Ar gyfer blynyddoedd treth 2009/10 a cynharach

Os na dderbynnir eich ffurflen dreth erbyn y dyddiad cau codir cosb benodol o £100. Os na fydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi derbyn eich ffurflen dreth chwe mis ar ôl y dyddiad cau codir cosb bellach o £100.

Sylwer:

Er enghraifft: Roedd dyddiad cau ffurflen dreth ar 31 Ionawr 2006 ond fe'i derbyniwyd ar 12 Hydref 2006. O ganlyniad, codwyd y cosbau canlynol: Cosb Benodol 1 anfonwyd ar 28 Chwefror 2006 am £100.00 Cosb Benodol 2 anfonwyd ar 31 Gorffennaf 2006 am £100.00 cyfanswm y cosbau yw £200.00 Y rhwymedigaeth gyfan o'r ffurflen dreth yw £71.50 Cosbau felly wedi eu gostwng i £71.50.

Ar gyfer blynyddoedd ffurflen dreth 2010/11 ymlaen

Cosb am Gyflwyno'n Hwyr
Cosb i Bartneriaeth am Gyflwyno'n Hwyr
Cosb Ddyddiol
Cosb Ddyddiol i Bartneriaeth
Cosb am Gyflwyno 6 Mis yn Hwyr
Cosb i Bartneriaeth am Gyflwyno 6 Mis yn Hwyr
Cosb am Gyflwyno 12 Mis yn Hwyr
Cosb i Bartneriaeth am Gyflwyno 12 Mis yn Hwyr
Cosb am Dalu 30 Diwrnod yn Hwyr
Cosb am Dalu 6 Mis yn Hwyr
Cosb am Dalu 12 Mis yn Hwyr
 

Cosb am Gyflwyno'n Hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth erbyn y dyddiad priodol codir cosb am gyflwyno'n hwyr o £100. Mae'r gosb yn swm sefydlog ac ni chaiff ei ostwng (ei gyfyngu) oherwydd bod y rhwymedigaeth treth yn llai na'r gosb, neu nad oes rhwymedigaeth neu fod ad-daliad yn ddyledus.
 

Cosb i Bartneriaeth am Gyflwyno'n Hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth Partneriaeth erbyn y dyddiad priodol codir cosb am gyflwyno'n hwyr o £100 ar bob partner.
 

Cosb Ddyddiol
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth o fewn tri mis ar ôl y dyddiad priodol i gyflwyno'r ffurflen dreth, bydd cosbau dyddiol yn dechrau codi. Codir cosbau dyddiol o £10 y diwrnod hyd at uchafswm o 90 diwrnod. Os cyflwynir y ffurflen dreth yn ystod y 90 diwrnod, codir y gosb ddyddiol o £10 y diwrnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad y cyflwynwyd y ffurflen dreth.
 

Cosb ddyddiol partneriaeth
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth partneriaeth o fewn 3 mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen dreth, bydd cosbau dyddiol yn dechrau codi. Codir cosbau dyddiol o £10 y diwrnod hyd at uchafswm o 90 diwrnod ar bob partner yn y bartneriaeth. Os cyflwynir y ffurflen dreth yn ystod y 90 diwrnod, codir y gosb ddyddiol o £10 y diwrnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad y cyflwynwyd y ffurflen.

Cosb am gyflwyno 6 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth o fewn 6 mis ar ôl y dyddiad priodol i gyflwyno'r ffurflen dreth, codir cosb (ar sail y dreth) am gyflwyno'n hwyr.

Y gosb yw'r uchaf o £300 neu 5% o swm y dreth sy'n ddyledus ar y ffurflen dreth neu o benderfyniad.

Cosb i bartneriaeth am gyflwyno 6 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth partneriaeth o fewn 6 mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen dreth, codir cosb (ar sail y dreth) am gyflwyno'n hwyr ar bob partner yn y bartneriaeth.

Y gosb yw'r uchaf o £300 neu 5% o swm y dreth sy'n ddyledus ar y ffurflen dreth neu o benderfyniad.

Cosb am gyflwyno 12 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth o fewn 12 mis ar ôl y dyddiad priodol i gyflwyno'r ffurflen dreth, codir cosb (ar sail y dreth) am gyflwyno'n hwyr.

Y gosb yw'r uchaf o £300 neu 5% o swm y dreth sy'n ddyledus ar y ffurflen dreth neu o benderfyniad.

Cosb i Bartneriaeth am gyflwyno 12 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen, os na chyflwynir y ffurflen dreth partneriaeth o fewn 12 mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen dreth, codir cosb (ar sail y dreth) am gyflwyno'n hwyr ar bob partner yn y bartneriaeth.

Y gosb yw'r mwyaf o £300 neu 5% o swm y dreth sy'n ddyledus ar y ffurflen dreth neu o benderfyniad.

Cosb am gyflwyno 30 diwrnod yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen gosodir cosb gyntaf am dalu'n hwyr pan fydd treth heb ei thalu yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl y dyddiad cau.

Y swm cyntaf hwn yw 5% o'r swm oedd heb ei dalu 30 diwrnod ar ôl y dyddiad cau.

Cosb am gyflwyno 6 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen gosodir ail gosb am dalu'n hwyr pan fydd treth heb ei thalu yn hwyrach na 30 diwrnod a 5 mis ar ôl y dyddiad cau.

Yr ail swm hwn yw 5% o'r swm oedd heb ei dalu 30 diwrnod a 5 mis ar ôl y dyddiad cau.

Cosb am dalu 12 mis yn hwyr
Ar gyfer y blynyddoedd treth 2010/11 ac ymlaen gosodir trydedd gosb am dalu'n hwyr pan fydd treth heb ei thalu yn hwyrach na 30 diwrnod ac 11 mis ar ôl y dyddiad cau.

Y trydydd swm hwn yw 5% o'r swm oedd heb ei dalu 30 diwrnod ac 11 mis ar ôl y dyddiad cau.