Cyllid & Thollau EM

Rheswm

Mae hwn yn rhoi rheswm byr dros addasu'r rhwymedigaeth a ddangosir. Gweler yr wybodaeth isod i gael esboniad cyffredinol ynghylch pob rheswm unigol.

Ddim yn mynd ar ei drywydd ar hyn o bryd
Mae'r addasiad hwn yn perthyn i swm nad ydym yn mynd ar ei drywydd ar gyfer ei dalu.

Wedi ei ohirio ar apêl ar hyn o bryd
Mae'r addasiad hwn yn perthyn i swm rydym wedi ei ohirio ar hyn o bryd yn dilyn derbyn apêl. Sylwer: Os, yn dilyn setlo eich apêl, bod y rhwymedigaeth yn gywir, codir llog ar symiau na chânt eu talu'n llawn erbyn y dyddiad cau.

Wedi ei gynnwys yn y cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben dd mm bbbb
Mae'r addasiad hwn yn perthyn i swm a drosglwyddwyd i'w gasglu drwy eich cod treth mewn blwyddyn hwyrach.

Swm wedi'i gynnwys yn eich cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben dd mm bbbb
Mae'r addasiad hwn yn perthyn i ddyled heb ei thalu a drosglwyddwyd i'w chasglu drwy gyfrwng eich cod treth mewn blwyddyn ddiweddarach.

Wedi'i gynnwys mewn setliad drwy gytundeb
Mae'r addasiad hwn yn perthyn i rwymedigaethau a ryddhawyd o'ch cyfrif. Bydd y rhwymedigaeth wedi ei chynnwys yn y setliad yn dilyn y gwiriad o'ch ffurflen dreth.

Casglu wedi'i ohirio ar hyn o bryd
Mae'r rhwymedigaeth wrth ochr wedi ei gohirio rhag cael ei chasglu, wrth aros am ymchwiliad pellach. Sylwer: Os yw'r swm yn gywir codir llog ar unrhyw swm sydd heb ei dalu ar y dyddiad cau.