Cyllid & Thollau EM

Penderfyniad refeniw

Penderfyniad refeniw yw amcangyfrif y gellir ei wneud os nad ydych wedi anfon eich ffurflen dreth Hunanasesiad ar amser. Amcangyfrifir y Dreth Incwm/Enillion Cyfalaf sy'n ddyledus genych gan Gyllid a Thollau EM (CThEM) Mae'r penderfyniad hefyd yn ffurfio sail ar gyfer Taliadau ar Gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth ddilynol.

Nid oes hawl i apelio yn erbyn yr amcangyfrif hwn. Yr unig ffordd i newid y swm sy'n rhaid i chi ei dalu yw anfon eich ffurflen dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn na chyflwynwyd ar ei chyfer eto. Yn y cyfamser, bydd yn dal i fod yn rhaid i chi dalu'r swm sy'n ddyledus. Gall CThEM gymryd camau cyfreithiol i adennill y swm sydd heb ei dalu ac unrhyw gostau. Gallai hyn gynnwys symud eich nwyddau er mwyn iddynt gael eu gwerthu mewn ocsiwn cyhoedddus neu gallai CThEM ddwyn achos gerbron llys.

Mwy o wybodaeth ynghylch dyddiadau cau a chosbau ar gyfer Ffurflenni Treth