Ail gosb ar gyfer ffurflen dreth hwyr
Mae'r Ail Gosb ar gyfer ar gyfer Ffurflen Dreth Partneriaeth Hwyr dim ond yn gymwys ar gyfer y blynyddoedd 2009/10 a chynt.
Codwyd ail gosb o £100 oherwydd roedd eich ffurflen dreth yn dal i fod heb ei chyflwyno chwe mis ar ôl y dyddiad .
Sylwer: Pan dderbynnir ffurflen dreth unigol yn hwyr ac mae'r rhwymedigaeth gyfan yn llai na chyfanswm y gosb a godir, caiff y gosb ei chyfyngu i gyfanswm y rhwymedigaeth.
Er enghraifft: Y dyddiad cau ar gyfer ffurflen dreth oedd 31 Ionawr ond cafodd ei derbyn ar 12 Hydref 2006. O ganlyniad, codwyd y cosbau canlynol: Cosb Benodol 1 anfonwyd ar 28 Chwefror 2006 am £100.00 Cosb Benodol 2 anfonwyd ar 31 Gorffennaf 2006 am £100.00 Cyfanswm y cosbau yn gyfwerth â £200.00 Y rhwymedigaeth gyffredinol gyfan am y flwyddyn dreth yn gyfwerth â £71.50 Cosbau felly wedi'u gostwng i £71.50