Bwrw golwg ar Hysbysiadau Cod
Mae eich 'Hysbysiad Cod TWE' yn dweud wrthych beth yw eich cod treth a sut mae'n cael ei gyfrifo. Mae'r cod treth yn dweud wrth eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn pa enillion rhydd o dreth y mae hawl gennych iddynt (os o gwbl) dros y flwyddyn dreth, ac, o ganlyniad, faint o dreth i'w didynnu o'ch incwm cyn iddynt eich talu. Mae'n bosib y bydd arnoch angen eich Hysbysiad Cod TWE i'ch helpu i lenwi'ch ffurflen dreth Hunanasesiad.
I gychwyn byddwch yn gallu bwrw golwg ar Hysbysiadau Cod a anfonwyd ar neu ar ôl 10 Hydref 2011 (neu'r dyddiad y gwnaethoch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Hunanasesiad ar-lein os yn hwyrach).
Yn ei bryd, gallwch fwrw golwg ar Hysbysiadau Cod TWE a anfonwyd ar neu ar ôl 10 Hydref 2011 ar gyfer:
- y flwyddyn dreth bresennol
- y flwyddyn dreth flaenorol
- y flwyddyn dreth nesaf
Ni allwch fwrw golwg ar unrhyw Hysbysiad Cod a dderbynioch cyn i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad Ar-lein.
Os oes gennych asiant sy'n gweithredu ar eich rhan sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth Hunanasesiad ar gyfer Asiantau ar-lein, bydd ef/hi hefyd yn gallu gweld eich Hysbysiadau Cod TWE ar-lein.