Cyllid & Thollau EM

Disgrifiad (Crynodeb blwyddyn dreth)

Treth - Mae hwn yn grynodeb o'r atebolrwydd unigol sy'n ffurfio elfen Dreth y flwyddyn dreth a ddaeth i ben a ddewiswyd gennych.

Treth a or-dalwyd o'r ffurflen a gyflwynwyd - Mae hwn yn grynodeb o sut y defnyddiwyd treth a or-dalwyd o brosesu eich ffurflen ar gyfer y flwyddyn dreth a ddewiswyd, yn erbyn swm/symiau sy'n weddill ar gyfer blwyddyn dreth wahanol, neu ei bod wedi ei had-dalu. Dengys hyn hefyd lle y bu Trosglwyddiad Credyd Allan o'r holl, neu o ran o'r swm a or-dalwyd.

Gordaliadau - Mae hwn yn darparu disgrifiad bras o'r math o ordal y mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi ei godi neu ei addasu. Lle caiff '(adj)' ei ddangos ar ddiwedd disgrifiad, mae dadansoddiad pellach o'r trafodyn hwnnw ar gael drwy ddilyn y cysylltiad.

Llog - mae hwn yn darparu disgrifiad bras o'r mathau o log y mae CThEM wedi ei godi neu ei addasu. Bydd pob disgrifiad yn dechrau â naill ai 'Llog am dalu'n hwyr ar gyfer' neu 'Llog sy'n cronni am dalu'n hwyr ar gyfer'. Mae 'Llog am dalu'n hwyr ar gyfer' yn golygu eich bod wedi talu treth ar yr hyn y codwyd y llog arno'n llawn. Mae swm y llog a ddangosir wedi ei gyfrifo, ar sail ddyddiol ar swm yr atebolrwydd sy'n weddill, o'r dyddiad pryd y dylid bod wedi talu'r atebolrwydd yn llawn i'r dyddiad pryd y cafodd ei dalu yn y diwedd. Ni fydd yn codi ymhellach. Mae 'Llog yn cronni am dalu'n hwyr ar gyfer' yn golygu nad yw'r atebolrwydd y mae CThEM yn codi llog arno eto wedi ei dalu'n llawn. Codir llog ar sail ddyddiol a bydd y swm a ddangosir yn cynyddu bob dydd tan fod yr atebolrwydd wedi ei dalu'n llawn.

Cosbau - Mae hwn yn rhoi disgrifiad bras o'r math o gosb mae CThEM wedi ei chodi neu ei haddasu. Mae dadansoddiadau pellach ar gael drwy ddilyn y cysylltiad(au) priodol.

Yn llai taliadau ar gyfer y flwyddyn hon - Mae hwn yn grynodeb o sut mae CThEM wedi dyrannu unrhyw daliadau rydych wedi eu gwneud neu gredydau maent wedi eu hanfon i'ch cyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth a ddewiswyd.

Yn llai addasiadau eraill - Mae hwn yn grynodeb o unrhyw addasiadau eraill a wnaed i'ch cyfrif.