Cyllid & Thollau EM

Disgrifiad (Taliadau/credydau)

Mae hwn yn dangos disgrifiad byr o'r mathau o daliadau a chredydau a gofnodwyd ar eich cyfrif. .

Trosglwyddiad credyd i mewn - Mae hwn yn dangos swm y credyd y mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi'i drosglwyddo i'ch cyfrif a gadwyd yn Swyddfa Gyfrifon CThEM.

Y rhesymau arferol dros hyn yw:

Gofynnwch i'ch swyddfa dreth eich hun os ydych am gael eglurhad pellach ynghylch pam bod credyd penodol wedi'i drosglwyddo.

Credyd amrywiol - Dyma swm credyd, megis ad-daliad yn ystod y flwyddyn ar gyfer didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), cais i gario colledion neu gyfraniadau pensiwn yn ôl, cyfartalu ar gyfer ffermwyr a chrewyr gwaith llenyddol neu artistig, neu ordaliad a osodwyd yn erbyn rhywbeth arall, y mae CThEM wedi'i anfon i'ch cyfrif. Cysylltwch â'ch swyddfa dreth eich hun os ydych am eglurhad ynghylch pam eich bod wedi derbyn y credyd hwn.

Gordaliad o'r ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben dd mm bbbb - O'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn eich ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn a ddangosir, dyma swm y dreth a dalwyd wrth y ffynhonnell y mae CThEM wedi cyfrifo eich bod wedi'i ordalu.. (Fel arfer, treth a ordalwyd drwy gyflogaeth neu'r CIS fydd hon).

Taliad - Mae hwn yn dangos yr holl daliad, neu ran o'r daliad a wnaed gennych.

Atodiad ad-daliad (llog) - Mae hwn yn dangos swm yr atodiad ad-daliad (RPS) a gredydwyd i'ch cyfrif gan CThEM a'r cyfnod pan gafodd ei gyfrifo.

Pan eich bod wedi gwneud taliad treth a bod hwn wedi ei ddyrannu i rwymedigaeth treth, os yw'r rhwymedigaeth honno'n cael ei gostwng yn hwyrach i swm sy'n llai na'ch taliad, bydd CThEM yn talu llog i chi a elwir yn Atodiad ad-daliad ar y swm a ordalwyd.

Ni thelir RPS ar ad-daliadau neu ailddyraniadau o'r canlynol

Sylwer: Os ydych yn gwneud taliad sy'n fwy na'ch rhwymedigaeth sy'n dal heb ei thalu, neu ar adeg pan nad oes rhwymedigaeth sy'n dal heb ei thalu, nid oes gan y swm gormodol rwymedigaeth y gellir ei ddyrannu yn ei herbyn. Gelwir y gormodedd yn Daliad sydd heb ei ddyrannu a ddangosir fel 'heb ei ddefnyddio eto'.

Er mwyn bwrw golwg ar daliad neu gredyd penodol, cliciwch ar swm yr eitem rydych am fwrw golwg arni.