Mae hwn yn rhoi dadansoddiad o'r ad-daliad a ddewisiwyd.
Mae'n dangos ffynhonnell pob eitem sydd wedi'i chynnwys yng nghyfanswm yr ad-daliad, gan gynnwys, os yn addas, blwyddyn dreth sy'n dod i ben, dyddiad talu, a'r dyddiadau a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r atodiad ad-daliad.
Dewiswch o'r rhestr isod i gael eglurhad pellach ynghylch disgrifiad penodol .
Gordaliad o Ffurflen Dreth - O'r wybodaeth a roddwyd gennych ar eich ffurflen dreth am y flwyddyn a ddangosir, dyma'r dreth a dalwyd wrth y ffynhonnell y mae CThEM wedi'i chyfrif wedi'i gordalu gennych. Fel arfer, bydd hon yn dreth a ordalwyd drwy gyflogaeth neu Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS).
Trosglwyddiad credyd i mewn - Dyma swm credyd y mae CThEM wedi ei drosglwyddo mewn i'ch cyfrif a oedd wedi ei gadw yn Swyddfeydd Cyfrifon CThEM.
Mae nifer o resymau pam y gallai'r disgrifiad hwn ymddangos.
Y ddau reswm mwyaf cyffredin yw:
Os oes angen eglurhad pellach arnoch ynghylch pam fod credyd penodol wedi ei drosglwyddo mewn, cysylltwch â'ch swyddfa dreth eich hun.
Credyd amrywiol - Swm credyd yw hwn, megis ad-daliad yn ystod y flwyddyn ar gyfer didyniadau CIS, cais i gario yn ôl ar gyfer colledion neu gyfraniadau pensiwn, cyfartalu ar gyfer ffermwyr a chrewyr gweithiau llenyddol neu artistig, neu ordaliad a osodwyd yn erbyn rhywbeth arall, a anfonwyd gennym i'ch cyfrif.
Os oes angen eglurhad arnoch ynghylch pam eich bod wedi derbyn y credyd hwn, cysylltwch â'ch swyddfa dreth eich hun.
Atodiad ad-daliad (llog) - Mae hwn yn dangos swm yr atodiad ad-daliad (RPS) y mae CThEM wedi ei gredydu i'ch cyfrif a'r cyfnod y cafodd ei gyfrifo.
Pan eich bod wedi gwneud taliad o dreth ac mae hwn wedi ei ddyrannu ar gyfer rhwymedigaeth treth, os yw'r rhwymedigaeth hon yn cael ei gostwng yn hwyrach i swm sy'n llai na'ch taliad, bydd CThEM yn talu llog i chi a elwir yn 'atodiad ad-daliad' ar y swm a ordalwyd.
Ni thelir RPS ar ad-daliadau neu ailddyraniadau o'r canlynol
Sylwer:: Os ydych yn gwneud taliad sy'n fwy na'ch rhwymedigaeth sy'n dal heb ei thalu neu ar adeg pan nad oes rhwymedigaeth sy'n dal heb ei thalu, nid oes gan y swm gormodol rwymedigaeth y gellir ei ddyrannu yn ei herbyn. Gelwir y gormodedd yn Daliad heb ei ddyrannu a ddangosir fel 'heb ei ddefnyddio eto'.
Taliad - Mae hwn yn dangos y taliad cyfan, neu ran o daliad a wnaed gennych.